Powis Castle and Garden NT/YG Castell a Gardd Powis

Powis Castle and Garden NT/YG Castell a Gardd Powis Gardd fyd-enwog, castell o'r 13eg ganrif a chasgliad hanesyddol. Cared for by the National Trust.

Dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol | World-famous garden, 13th century castle and historic collection.

02/10/2026

Croesawu’r hydref | Stepping into autumn

****

Mae lliwiau’n dechrau gwasgaru ar hyd yr ardd yng Nghastell Powis, gyda’r masarn yn gloywi’n rhuddgoch, y coed katsura yn troi’n euraidd ac arlliwiau cryf cyntaf yr hydref yn ymddangos o dan y terasau.

Gyda’r hydref yn gwneud ei ymddangosiad swyddogol yr wythnos ddiwethaf, mae’n ein hatgoffa bod un o dymhorau prydferthaf yr ardd ond megis dechrau. Dros yr wythnosau nesaf, parhau i drawsnewid fydd y dirwedd, gan gyflwyno lliwiau ffres a golygfeydd newydd i bob ymweliad.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am yr hydref?

****

Colour is beginning to spread across the Garden at Powis Castle, with acers glowing crimson, katsura trees turning golden and the first rich shades of autumn appearing below the terraces.

With autumn officially arriving last week, it's a reminder that one of the garden's most beautiful seasons is just getting started. Over the coming weeks, the landscape will continue to transform, bringing fresh colour and new views with every visit.

What do you love most about autumn?

Rhowch Lyfrau yr Hydref Hwn | Donate Books This Autumn****Yr hydref yw'r amser perffaith i swatio gyda llyfr da, ac rydy...
24/09/2026

Rhowch Lyfrau yr Hydref Hwn | Donate Books This Autumn

****

Yr hydref yw'r amser perffaith i swatio gyda llyfr da, ac rydym yn chwilio am roddion i helpu i gadw digon o lyfrau ar y silffoedd yn Siop Lyfrau Stablau Bodley ar gyfer y tymor darllen cysurus sydd o'n blaenau.

O straeon cyffro poblogaidd a chlasuron gwerth chweil i hoff straeon plant, rydym wrth ein bodd yn gweld llyfrau ail-law yn dechrau ar bennod newydd.

Os ydych yn ymweld â Phowis yr hydref hwn, dewch â llyfr gyda chi i helpu darllenwr arall i ddod o hyd i'w ddarlleniad gwych nesaf.

Gellir gadael rhoddion bychain yn y fasged gasglu yn Siop Lyfrau Stablau Bodley. Os ydych am roi casgliad mwy sylweddol o lyfrau, cysylltwch â [email protected] fel y gall aelod o’r tîm fod wrth law i’ch helpu.

Bydd pob eitem a brynir o’r Siop Lyfrau’n helpu i gefnogi gofal parhaus Castell a Gardd Powis, gan wneud i bob llyfr sydd wedi’i roi’n rhodd fynd hyd yn oed yn bellach. Diolch!

****

Autumn is the perfect time to curl up with a good book, and we're looking for donations to help keep the shelves in the Bodley Stables Bookshop stocked for the cosy reading season ahead.

From bestselling thrillers and well-loved classics to favourite children's stories, we love seeing pre-loved books begin a new chapter.

If you're visiting Powis this autumn, bring a book along and help another reader discover their next great read.

Small donations can be left in the collection basket in the Bodley Stables Bookshop. If you're donating a larger collection, please get in touch beforehand at [email protected] so a member of the team can be on hand to help.

Every purchase from the Bookshop helps support the ongoing care of Powis Castle and Garden, making each donated book go even further. Diolch!

6 gardd sy'n dwyn ffrwyth yn nhymor yr afalau |  6 gardens to pick this apple season****O gasgliad byw afalau treftadaet...
18/09/2026

6 gardd sy'n dwyn ffrwyth yn nhymor yr afalau | 6 gardens to pick this apple season

****

O gasgliad byw afalau treftadaeth Erddig ac amrywogaeth Gymreig brin Llanerchaeron a enwyd ar ôl y lle, i berllan treftadaeth Gerddi Dyffryn a choed afalau canrif oed Castell Powis, mae yna ddigon i arddwyr brwd ei ddarganfod yr hydref hwn.

Ym Mhlas yn Rhiw, mae dros 140 o goed ffrwythau Cymreig yn tyfu gyda Phen Llŷn yn gefndir iddynt, ac mae Gardd Berllan Tŷ Tredegar yn lle tawel i grwydro rhwng coed ffrwythau treftadaeth a llwybrau o laswellt wedi’i dorri.

🍎Pa un fyddwch chi’n ei ddewis?
Dilynwch y ddolen yn y sylwadau i gynllunio eich ymweliad. 👇

****

From Erddig NT/YG’s living collection of heritage apples and Llanerchaeron NT/YG’s rare Welsh variety named after the place, to Dyffryn Gardens NT/YG Gerddi Dyffryn’s heritage orchard and Powis Castle and Garden NT/YG Castell a Gardd Powis’s century-old apple trees, there’s plenty for garden lovers to discover this autumn.

At Plas yn Rhiw NT/YG, over 140 Welsh fruit trees grow against the backdrop of Llŷn NT/YG, while Tredegar House NT/YG Tŷ Tredegar’s Orchard Garden is a peaceful place to wander between heritage fruit trees and mown paths.

🍎Which one will you pick?
Follow the link in the comments to plan your visit. 👇

A***n Ymysg Lliwiau’r Hydref | Silver Among the Autumn Shades****Rydym yn mwynhau’r adeg honno pan mae diwedd yr haf yn ...
13/09/2026

A***n Ymysg Lliwiau’r Hydref | Silver Among the Autumn Shades

****

Rydym yn mwynhau’r adeg honno pan mae diwedd yr haf yn llifo i ddechrau’r hydref. Mae’r coed masarn a’r gwinwydd yn dechrau troi’n goch a marŵn, tra bod rhosod melyn, pinc a choch yn dal i flodeuo a ffiwsias bywiog yn dod â thonnau o liw.

Ond yng nghanol yr holl liwiau cyfoethog hynny, efallai na fyddech yn disgwyl canfod a***n.

Mae’r Artemisia ‘Castell Powis’, sy’n swatio’n union o dan yr un y mae wedi’i enwi ar ei ôl ar y Teras Uchaf, yn dod â chyferbyniad trawiadol gyda’i ddeiliach ysgafn, a***n o dan y tocwaith ywen wedi’u siapio.

Os yw wedi dal eich llygad yn ystod ymweliad, cewch fynd â darn bach o gastell Powis gartref gyda chi. Mae’r planhigion sy’n tyfu yma yn yr ardd ar gael yn y siop ar hyn o bryd, yn barod i ddod ag ychydig o’r terasau i’ch gardd chi.

****

We're enjoying that wonderful moment when late summer blends into early autumn. Acers and grapevines are beginning to turn shades of red and maroon, while yellow, pink and red roses continue to bloom and vibrant fuchsias bring pops of colour.

But among all those rich tones, you might not expect to find silver.

Artemisia 'Powis Castle', nestled directly below its namesake on the Top Terrace, brings a striking contrast with its soft, silvery foliage beneath the shaped yew topiary.

If it's caught your eye during a visit, you can take a little Powis Castle home with you. Plants grown here in the garden are currently available in the shop, ready to bring a touch of the terraces to your own garden.

Drysau Agored y Trallwng | Welshpool Open Doors ****Cewch fwynhau mynediad am ddim i’r Ardd ac i Amgueddfa Clive ar 12 a...
09/09/2026

Drysau Agored y Trallwng | Welshpool Open Doors

****

Cewch fwynhau mynediad am ddim i’r Ardd ac i Amgueddfa Clive ar 12 a 13 Medi fel rhan o Ddrysau Agored 2026.

Dathliad o dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru yw Drysau Agored, sy’n rhoi cyfle i bawb ganfod rhai o leoedd mwyaf arbennig y genedl, wedi ei drefnu a’i a***nnu gan Cadw.

Rydym hefyd yn ymuno ag Visit Welshpool ac atyniadau partneriaid ledled y dref am benwythnos o ddigwyddiadau’n dathlu straeon, hanes a threftadaeth sy’n gwneud ein hardal leol yn unigryw.

Noder y bydd Ystafelloedd y Castell ar gau tra cynhelir gwaith cadwraeth a chynnal a chadw hanfodol. Nid oes angen archebu i ymweld â’r Ardd neu Amgueddfa Clive.

Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd ledled y Trallwng, gan gynnwys amseroedd agor atyniadau partneriaid ac unrhyw ofynion archebu: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/powis-castle-and-garden/events/a409a032-91ac-44ba-8377-07ee2c4bd436

****

Enjoy free entry to the Garden and Clive Museum on 12 & 13 September as part of Open Doors 2026.

Open Doors is a celebration of Wales's rich heritage and culture, giving everyone the chance to discover some of the nation's most special places, organised and funded by Cadw.

We're also joining Visit Welshpool and partner attractions across the town for a weekend of events celebrating the stories, history and heritage that make our local area unique.

Please note the Castle Rooms remain closed while essential conservation and maintenance work takes place. No booking required to visit the Garden or Clive Museum.

Find out more about what's happening across Welshpool, including partner attractions' opening times and any booking requirements: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/powis-castle-and-garden/events/a409a032-91ac-44ba-8377-07ee2c4bd436

Blas o ddiwedd yr haf | A taste of late summer 🍎****Os ydych yn ymweld â’r ardd dros yr wythnosau nesaf, ewch am dro law...
06/09/2026

Blas o ddiwedd yr haf | A taste of late summer 🍎

****

Os ydych yn ymweld â’r ardd dros yr wythnosau nesaf, ewch am dro lawr i’r Ardd Ffurfiol Edwardaidd, lle mae’r coed afalau’n drwm gyda ffrwythau gwyrdd a choch llachar, ac arogl afalau melys yn llenwi’r aer.

Nid yw’r ardal hon wastad wedi edrych fel hyn. Unwaith roedd yn Ardd Gegin brysur, ond cafodd ei thrawsnewid yn 1912 gan Violet, Iarlles Powis, yn lle addurnol tawel a fwynheir heddiw. Mae’r rhodfa hon sy’n llawn afalau yn cynnig cipolwg ar yr hanes hwnnw, gyda’r coed yn dal i ffynnu yma dros ganrif yn ddiweddarach.

Dilynwch y rhodfa, arhoswch dan y brigau a mwynhau’r newid ysgafn rhwng tymhorau. Gyda haul diwedd yr haf ac arwyddion cyntaf yr hydref yn dechrau ymddangos, mae’n amser bendigedig i bwyllo ac ymgolli ym mhrydferthwch yr ardd.

****

If you're visiting the garden over the next few weeks, wander down to the Edwardian Formal Garden, where apple trees are heavy with bright red and green fruit, and a sweet apple scent lingers in the air.

This area hasn't always looked the way it does today. Once a busy Kitchen Garden, it was transformed in 1912 by Violet, Countess of Powis, into the peaceful ornamental space enjoyed today. This apple-lined avenue offers a glimpse into that history, with the trees still thriving here more than a century later.

Follow the avenue, pause beneath the branches and enjoy the gentle shift between seasons. With late summer sunshine and the first touches of autumn beginning to appear, it's a lovely time to slow down and soak up the beauty of the garden.

Dewch i weld diweddglo mawreddog yr haf | See summer's grand finale****Mae diwedd yr haf yn rhoi sioe yn yr Ardd.Mae’r f...
04/09/2026

Dewch i weld diweddglo mawreddog yr haf | See summer's grand finale

****

Mae diwedd yr haf yn rhoi sioe yn yr Ardd.

Mae’r ffiwsias pinc llachar a rhuddgoch yn dod â’r Terasau’n fyw, gan greu pocedi lliwgar o ddiddordeb wrth i chi grwydro drwy’r ardd.

Oddi yno, crwydrwch ar lwybrau troellog ac o dan fwâu deiliog i’r Ardd Edwardaidd, lle mae rhosod yn blodeuo’n hardd. O arlliwiau golau, cain i arlliwiau cyfoethog, llachar, mae digon i’w weld, gyda mwy o flagur yn dal yn aros i agor.

P’un a ydych yn chwilio am liw tymhorol, dro heddychlon neu hoff fan i aros, dyma amser arbennig i ymweld a mwynhau’r ardd wrth i’r tymor ddechrau newid.

****

Late summer is putting on a show in the Garden.

Bright pink and crimson fuchsias bring the Terraces to life, creating colourful pockets of interest as you make your way through the garden.

From there, wander through winding paths and beneath leafy arches to the Edwardian Garden, where roses are blooming beautifully. From soft, delicate shades to rich, vibrant tones, there's plenty to discover, with more buds still waiting to open.

Whether you're seeking seasonal colour, a peaceful stroll or a favourite spot to pause, now is a wonderful time to visit and enjoy the garden as the seasons begin to change.

Address

Powis Castle And Garden
Welshpool
SY218RF

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Powis Castle and Garden NT/YG Castell a Gardd Powis posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share