30/10/2021
NEWYDDION (Yn cynnwys rhannau Drwg, Da a Chyffrous)
Ar ôl peth trafodaeth dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi dod i benderfyniad ynghylch dyfodol Byrgyr fel brand.
Y Drwg
Ein gobaith dros yr ychydig fisoedd diwethaf oedd dod o hyd i reolwr a rhywun â phrofiad o arwain ein cegin. Fodd bynnag, er ein bod wedi hysbysebu'r swyddi am 5 mis, nid ydym wedi dod o hyd i'r ymgeiswyr cywir ar gyfer y swyddi hanfodol hyn.
Felly, heddiw (dydd Sadwrn 30 Hydref) fydd diwrnod olaf Byrgyr yn y bwyty. Fel y gwyddoch i gyd mae'n siwr, nid yw lletygarwch fel yr oedd 2 flynedd yn ôl. Rydyn ni wedi gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gennych chi, ein cwsmeriaid - a dyna pam nad ydyn ni'n mynd yn bell, yn lle hynny, rydyn ni'n esblygu ...
Y Da
Mae yna rai pethau positif sy'n dod allan o bob sefyllfa. Nawr bydd gennym fwy o amser i ganolbwyntio ar ein Pod Byrgyr symudol, sydd wedi bod yn boblogaidd yn yr holl ddigwyddiadau rydyn ni wedi mynychu hyd yn hyn! Byddwn hefyd yn parhau i redeg tecawês ac yn dosbarthu bwyd o'r Pod (sydd wedi'i leoli yn Llanbadarn Fawr ar hyn o bryd, y tu allan i dafarn y Llew Du).
Rydym wedi ymweld â llawer o wahanol bentrefi a chymunedau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf (pan oedd cyfyngiadau'n caniatau, wrth gwrs) ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w ailgychwyn! Efallai y byddwn yn ymweld â'ch ardal yn fuan iawn! Ac, wrth gwrs, os hoffai'ch cymuned ein gwahodd, cysylltwch â ni!
Y Cyffrous
Nawr ychydig o newyddion gwych am ein gofod hyfryd yma yn adeilad y Cambria ar y Prom!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd gan y bwyty ddeiliaid newydd, a fydd yn cymryd yr awenau ddydd Llun! Maen nhw'n bwriadu datblygu rhywbeth hollol newydd i Aberystwyth! Efallai y bydd ychydig wythnosau cyn eu bod yn barod i agor, ond gwyliwch y gofod hwn!
I Grynhoi...
Pan wnaethon ni agor ychydig dros 3 blynedd yn ôl, doedd neb wedi rhagweld y byddai'r byd yn newid mewn cyfnod mor fyr!
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth anhygoel trwy gydol yr amser hwn! Rydym yn gwerthfawrogi pob unigolyn a gerddodd trwy ein drws i fwynhau ein bwyd.
Fel yr ydym wedi egluro uchod, nid yw hyn yn ffarwel! Yn hytrach, rydyn ni'n addasu i'r sefyllfa, gan gynnig Byrgyr i chi mewn ffordd wahanol!